Ni yw’r llinell gymorth eiriolaeth, gwybodaeth a chyngor i blant yng Nghymru. Os yw eich bywyd mewn dryswch neu os oes gennych broblem ac mae angen i chi siarad â rhywun, mae Meic yma i chi.
Gwybodaeth a chefnogaeth i bobl sy’n hunan-niweidio, gan gynnwys templed ar gyfer dyddiadur hunan-niweidio a grwpiau cymorth lleol i ddynion a menywod.
Mae The Amber Project yn gweithio gyda phobl ifanc (14-25) sydd â phrofiad o hunan-niweidio. Rydyn ni'n cwnsela ac rydyn ni'n cynnal cyfres reolaidd o weithdai theatr a gweithdai wedi'u seilio ar weithgaredd anffurfiol wythnosol.