Mae Kooth.com yn wasanaeth cwnsela ar-lein cyfrinachol a dienw i bobl ifanc 11-19 oed. Gallwch chi siarad â chwnselydd am unrhyw beth sy’n eich poeni ni waeth a yw’n fach neu’n fawr.
Ni yw’r llinell gymorth eiriolaeth, gwybodaeth a chyngor i blant yng Nghymru. Os yw eich bywyd mewn dryswch neu os oes gennych broblem ac mae angen i chi siarad â rhywun, mae Meic yma i chi.
Cyngor i bobl ifanc sydd mewn perygl o hunanladdiad. Ffôn: 08000 684 141 E-bost: This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. Neges Destun: 07786 209697
Mae Place2Be yn cynnig gwasanaethau emosiynol a therapiwtig mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, yn adeiladu gwydnwch plant trwy siarad, gwaith creadigol a chwarae.
Mae’r Tîm o Amgylch y Teulu (TAT) yn bwriadu gweithio gyda theuluoedd i’w helpu i nodi eu cryfderau a’u hanghenion a gwneud eu cynlluniau eu hunain i’w harwain at eu nodau.